RHYDIAN MEILIR

(MA Dip)

Cyfansoddwr Drymiwr Cynhyrchydd Sain
Songwriter Drummer Music Producer


MA Songwriting and Production (Distinction)
+ Diploma Piano Tuning & Repair
MA Cyfansoddi a Chynhyrchu (Rhagoriaeth)
+ Diploma Tiwnio ac Adfer Pianos


Newsletter
Cylch-lythyr

Mae cerddoriaeth Rhydian Meilir yn cael ei chwarae’n gyson ar Radio Cymru ac mewn cyngherddau ac eisteddfodau ledled Cymru gan unigolion a chorau. Bu’n llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau cyfansoddi dros y blynyddoedd, gan gynnwys ennill Tlws Coffa Sbardun yn 2019 a 2022 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ennill Cân i Gymru yn 2022, a dod yn 2il ar dri achlysur arall yn yr un gystadleuaeth. Rhyddhaodd gryno ddisg o’i albwm cyntaf o'i ganeuon yn 2022, sef Caneuon Rhydian Meilir.Mae gan Rhydian MA mewn Cyfansoddi a Chynhyrchu o Brifysgol De Cymru Caerdydd a diploma tiwnio ac atgyweirio piano. Mae’n chwarae’r drymiau, piano a gitâr a bu’n aelod o sawl band dros y blynyddoedd, gan gyfansoddi yn ogystal â pherfformio i’r bandiau.Mae Rhydian yn aelod o Gôr Dyffryn Dyfi a bu’n aelod o Gwmni Theatr Maldwyn ar hyd y blynyddoedd. Mae’n rhannu ei amser rhwng ffermio ar y fferm deuluol ac yn recordio a chynhyrchu cerddoriaeth yn ei stiwdio recordio yng Nghemaes ger Machynlleth, sef Stiwdio Bing.Yn ogystal â hyn, mae yn gwneud llawer o waith cyfansoddi i briffiau a chomisiynau a phrojectau cyfansoddi personol.Mae Rhydian hefyd yn berchenog ar label Recordiau Bing, sy'n gweithredu o'r stiwdio.

Ar y 24ain o Ionawr, 2026, yn y Tabernacl, Machynlleth, bydd casgliad o gerddoriaeth newydd Rhydian Meilir o’r Sioe Gerdd newydd ‘Ymlaen Mimosa’ yn cael eu perfformio mewn cyngerdd uchelgeisiol gan amrywiol o artistiaid blaenllaw Cymru, dan gyfeiliant band byw. Mae’r sioe wedi ei seilio ar hanes y Cymry a allfudodd i Batagonia yn 1865 i osgoi gorthrwm tirfeddianwyr ac Eglwys Lloegr, oedd yn teyrnasu yng Nghymru ar y pryd.
Mae’r cyngerdd hefyd yn nodi 160 mlwyddiant eleni ers glaniad y Cymry, a groesodd y môr ar long y Mimosa, a glanio ym Mhorth Madryn y flwyddyn honno.
Mynnwch eich tocyn o’r linc isod, neu yn y Tabernacl mewn da bryd i fachu ar y cyngerdd ecscliwsif yma i glywed rhagflas o’r caneuon cyn i’r sioe lawn gael ei llwyfannu yn hwyrach ‘mlaen yn y flwyddyn.